Canva
| Enghraifft o: | gwasanaeth ar-lein, graphics software |
|---|---|
| Dyddiad cyhoeddi | 2013 |
| Dechrau/Sefydlu | 2013 |
| Perchennog | Canva |
| Sylfaenydd | Melanie Perkins, Cliff Obrecht |
| Cynnyrch | Q113699194, Q113699207, Q113699209, Q113699205, Affinity |
| Gwladwriaeth | Awstralia |
| Gwefan | https://www.canva.com/ |
| Dynodwyr | |

Mae Canva yn feddalwedd a gwefan offer dylunio graffeg syml, a sefydlwyd yn 2012. Mae'n defnyddio fformat llusgo a gollwng ac yn darparu mynediad i dros 60 miliwn o ffotograffau a 5 miliwn o fectorau, graffeg a ffontiau. Fe'i defnyddir yn yr un modd gan ddylunwyr amaturion â gan weithwyr proffesiynol yn y sector. Gellir defnyddio ei offer ar gyfer dylunio gwe a chyfryngau print a graffig.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y cwmni ar 1 Ionawr 2013 yn Perth, Awstralia gan Melanie Perkins, Cliff Obrecht a Cameron Adams. Roedd Perkins wedi sefydlu Fusion Books, cyhoeddwr blwyddlyfrau ysgol mwyaf Awstralia cyn hynny.[2] Cafodd Canva yn lansio ochr yn ochr â'r cwmni, gan ddarparu offer symlach ar gyfer crefftio hysbysebion, dyluniadau a phosteri fector. I ddechrau, dim ond yn y fersiwn we yr oedd ar gael, gan gael ei ryddhau ar gyfer Android flwyddyn yn ddiweddarach. Yn 2015, lansiwyd Canva for Work, sy'n darparu offeryn i fusnesau ar gyfer creu deunyddiau marchnata.[3]
Canva a Deallusrwydd Artiffisial
[golygu | golygu cod]Ym mis Ebrill 2026, cyflwynodd Canva 'Canva AI 2.0' fel rhagolwg ymchwil, gan ychwanegu offer 'asiantaethol' (agentic tools) sy'n gallu trefnu a chyflawni tasgau dylunio sy'n digwydd dro ar ôl tro yn y cefndir.[4] Ychwanegodd y cwmni hefyd ddull gweithio all-lein, sy'n galluogi golygu dyluniadau dethol heb gysylltiad rhyngrwyd, a'u cydamseru unwaith y bydd y cysylltiad yn dychwelyd.[5]
Ym mis Awst 2026, gostyngodd Canva ei darged disgwyliedig ar gyfer twf refeniw blynyddol o 30% i 20%. Dywedodd y cwmni fod costau uchel annisgwyl, sy'n gysylltiedig â darparu ei nodweddion deallusrwydd artiffisial (AI), wedi arwain at arafu'r broses o'u cyflwyno tra bod y bensaernïaeth sylfaenol yn cael ei hailadeiladu. Dywedodd y Prif Weithredwr, Melanie Perkins, fod y gost fesul tasg AI wedi gostwng bron i 90% ers i Canva AI 2.0 gael ei gyflwyno ym mis Ebrill.[6]
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Mae Canva yn gweithio yn seiliedig ar fectorau, delweddau a thestun. Gellir cadw prosiectau wedi'u cwblhau i barhau i olygu'n barhaus heb golli symudiadau. Mae'r wefan yn cynnig catalog o dros 15 miliwn o dempledi addasadwy ar gyfer golygu a chreu prosiectau eich hun. Mae gan y templedi eu delweddau, arddulliau a dyluniad testun eu hunain, ac mae'r maint yn cyfateb i'r platfform cymdeithasol a'r defnydd (baneri, postiadau, straeon, gwefan). Gellir defnyddio'r rhain trwy addasu'r elfennau rhagosodedig i allu dylunio delwedd.
Templedi
[golygu | golygu cod]Mae templedi Canva yn cael eu creu gan olygyddion y gymuned eu hunain a defnyddwyr cwmnïau sy'n defnyddio'r platfform. Mae gan Canva fwy na 5 miliwn o dempledi am ddim, gyda rhai templedi taledig ar gyfer cynnal a chadw'r platfform.
Canva yn Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae Canva yn gallu cynnig rhyngwyneb Gymraeg i'w defnyddwyr.[7] Defnyddir yr adnodd yn helaeth gan sefydlidau Cymru gan gynnwys Mudiad Meithrin.[8]
Oriel
[golygu | golygu cod]Enghreifftiau o ddyluniadau Canva
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Corinne Hoisington, Technology Now: Your Companion to SAM Computer Concepts (Cengage Learning, 2014), tt.11–20
- ↑ The 30-year-old woman who designed a $1bn business, BBC News
- ↑ Canva for Work
- ↑ Hale, Craig (16 April 2026). "Autonomous agentic assistants are at an 'absolute early adopter stage': Scheduling in Canva AI 2.0 is about to "democratize" that". TechRadar. Cyrchwyd 29 Awst 2026.
- ↑ Hale, Craig (17 Ebrill 2026). "'We hear you': After years of feedback, Canva finally brings offline mode". TechRadar. Cyrchwyd 29 Awst 2026.
- ↑ Osmonbekov, Mia (12 Awst 2026). "AI was supposed to power Canva's next act. It also exposed software's most expensive problem". Fortune. Cyrchwyd 29 Awst 2026.
- ↑ "Canva has a Cymraeg Iaith Option". Reddit. 2026. Cyrchwyd 28 Hydref 2026.
- ↑ "Hyfforddiant Canva i Ddechreuwyr". Mudiad Meithrin. 2025. Cyrchwyd 28 Hydref 2026.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol Canva
- Master 97% of Canva in 12 Minutes - Fideo gyflwyno (2026)