Neidio i'r cynnwys

Dyfrig Morris

Oddi ar Wicipedia
Dyfrig Morris
Ganwyd1975 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor ffilm, cerddor, drymiwr Edit this on Wikidata

Actor a cherddor Cymraeg o Gasnewydd ydi Dyfrig Morris (ganwyd 1975)[1] sydd wedi gweithio'n gyson ar lwyfannau Cymru ers y 1990au. Bu'n aelod o gwmni preswyl Clwyd Theatr Cymru ers 1997, ac mae o hefyd wedi gweithio gyda'r Royal Shakespeare Company, Theatr Na nÓg, Hijinx, Dalier Sylw a Theatr y Sherman.

Mae Morris yn ddrymiwr proffesiynnol ac wedi perfformio yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu a Vienne, yn ogystal â chyfeilio ar recordiau nifer o fandiau o Gymru.[2]

Yn 2002, cafodd ei gastio mewn cynhyrchiad o'r ddrama Rosencrantz and Guildenstern Are Dead yn Theatr Clwyd, yn dilyn ymadawiad yr actor Richard Moore, wedi iddo "ymadael â'r llwyfan yn ddig yn ystod rhagolwg" o'r ddrama.[1]

Gwaith ddethol

[golygu | golygu cod]

Theatr

[golygu | golygu cod]

Clwyd Theatr Cymru

Cwmnïau eraill

Teledu a Ffilm

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Theatre star in bizarre tantrum". www.dailypost.co.uk. Cyrchwyd 23 Hydref 2026.
  2. ↑ Bywgraffiad o raglen Theatr Clwyd (2007)
  3. ↑ "Henry V (2016) | Past Productions". Open Air Theatre (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Hydref 2026.
  4. ↑ "Gwefan IMDB".