Neidio i'r cynnwys

Gwobr Verity Bargate

Oddi ar Wicipedia
Gwobr Verity Bargate
Enghraifft o:Gwobr Theatr i Ddramodwyr Newydd
Cysylltir gydaSoho Theatre, Verity Bargate Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1981 Edit this on Wikidata
GwladwriaethLloegr, y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Gwobr theatr Brydeinig i ddramodwyr newydd yw Gwobr Verity Bargate neu Verity Bargate Award a sefydlwyd tua 1981–82 er cof am Verity Bargate, cyd-sylfaenydd Soho Poly,[1] sef rhagflaenydd Theatr Soho. [2]

Mae'r gystadleuaeth yn agored i awduron sy'n byw yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ac fe'i cydnabyddir fel un o'r gwobrau theatr hynaf a mwyaf clodwiw i ddramodwyr. Ers ei sefydlu, bu'n fan cychwyn pwysig ar gyfer gyrfaoedd rhai o ddramodwyr a sgriptwyr mwyaf sefydledig Prydain.

Erbyn 2024, roedd y dramodydd buddugol yn derbyn £8,000 a chynnig (opsiwn) unigryw i Theatr Soho gynhyrchu'r ddrama fuddugol. Mae'n gwarantu bydd eu drama'n cael ei llwyfannu'n llawn yn Llundain a gweithdai a darlleniadau o'r ddrama yn India ac UDA fel rhan o raglen ryngwladol ehangach y theatr.[3]

Mae cyn-feirniaid y gystadleuaeth yn cynnwys Phoebe Waller-Bridge, Laura Wade, James Graham, Theresa Ikoko, Morgan Lloyd Malcolm (cyn-ddramodwyr Theatr Soho), Lolita Chakrabarti, Russell T Davies, April De Angelis, Sue Townsend, Emma Rice, Irving Wardle, Meera Syal ac Ikenna Obiekwe.

Mae sawl dramodydd o Gymru wedi dod yn agos i'r brig megis Rhys Warrington (2026) a Tim Price (2013).[4]

Cyn-enillwyr

[golygu | golygu cod]
Gwobr Verity Bargate
Blwyddyn Drama Dramodydd
1983 Shona Tony Craze (ar y cyd)
1983 Lunch Girls Ron Hart (ar y cyd)
1983 The Shelter Johnnie Quarrel (agos)
1984 Up For None Mick Mahoney (ar y cyd)
1984 Coming Apart Melissa Murray (ar y cyd)
1985 The Bombdies Julie Dennis
1986 Releevo David Spencer (ar y cyd)
1986 Made in Spain Tony Grounds (ar y cyd)
1986 Smith Johnnie Quarrell (agos)
1987 James Bonney MP Ian Buckley (rhestr fer)
1988 Me and My Friend Gillian Plowman (enillydd)
1988 Here is Monster Brock Norman Brock (agos)
1989 Dogs! Sons of Dogs! Michele Celeste
1990 Killing the Cat David Spencer
1991 Water Music Lyndon Morgans
1992 Kindertransport Diane Samuels
1994 Bruises & The Shore Watcher's House Judy Upton
1996 The Backroom Adrian Pagan (ar y cyd)
1996 Perpetua Fraser Grace (ar y cyd)
1998 Jump Mr Malinoff, Jump Toby Whithouse
2001 Office Shan Khan
2004 A Night At The Dogs Matt Charman (ar y cyd)
2004 Felt Effects Joy Wilkinson (ar y cyd)
2007 This Isn't Romance Insook Chappell
2011 Pastoral Thomas Eccleshare
2013 The One Vicky Jones
2015 Roller Diner Stephen Jackson
2017 City Song Carys Coburn
2020 Shedding A Skin Amanda Wilkin
2022 Boys on the Verge of Tears Sam Grabiner
2024 Little Brother Eoin McAndrew

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Restoring the Soho Poly | University of Westminster, London". www.westminster.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-04. Cyrchwyd 2024-04-16.
  2. "Introduction". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-14. Cyrchwyd 2013-06-05.
  3. "Soho Theatre India – Soho Theatre" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-03.
  4. Unknown (2013-10-01). "VERITY BARGATE AWARD 2013 WINNER ANNOUNCED | The Vile Blog". VERITY BARGATE AWARD 2013 WINNER ANNOUNCED | The Vile Blog. Cyrchwyd 2026-07-03.