Neidio i'r cynnwys

Gwobrau Laurence Olivier

Oddi ar Wicipedia
Gwobrau Laurence Olivier
Enghraifft o:grŵp o wobrau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1976 Edit this on Wikidata
Enw brodorolLaurence Olivier Award Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://officiallondontheatre.com/olivier-awards/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyflwynir Gwobrau Laurence Olivier, a elwir hefyd yn Wobrau Olivier, yn flynyddol gan Gymdeithas Theatr Llundain (SOLT) i gydnabod "statws byd-eang theatr Llundain." [1] [2] Yn wreiddiol, gelwid y gwobrau yn Wobrau Theatr Cymdeithas y West End, ond cawsant eu hailenwi er anrhydedd i'r actor Seisnig o'r un enw ym 1984.

Rebecca Trehearn yn ennill y Wobr yn 2017

Rhoddir y gwobrau i unigolion sy'n ymwneud â chynyrchiadau theatr yn y West End a theatrau anfasnachol eraill, sydd wedi'u lleoli yn Llundain. Mae ystod eang o gategorïau sy'n cynnwys dramâu, sioeau cerdd, dawns, opera a theatr gysylltiedig. Caiff y Gwobrau eu cydnabod yn eang fel yr anrhydedd uchaf mewn theatr a drama ym Mhrydain, sy'n cyfateb i Wobrau BAFTA ar gyfer ffilm a theledu.

Daniel Evans sydd wedi ennill dwy Wobr Olivier

Dros y degawdau, mae nifer helaeth o Gymry wedi ennill y Gwobrau gan gynnwys Daniel Evans [a enillodd ddwy 2001 a 2007], Jonathan Pryce [a enillodd ddwy 1980 a 1990], David Thaxton (2010), Michael Bogdanov (a enillodd ddwy 1979 a 1990) Guy Masterson (2010), Rebecca Trehearn (2017), Aneurin Barnard (2010), Iwan Rheon (2010), Gary Owen a Theatr y Sherman (2018). [3][4] Cafodd yr actores Siân Phillips ei henwebu 4 gwaith.

Gary Owen a Rachel O'Riordan yn derbyn eu Gwobr yn 2018

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y Gwobrau ym 1976 gan Gymdeithas Theatr Llundain fel Gwobrau Theatr Cymdeithas y West End ac fe'u cynlluniwyd gan yr artist Tom Merrifield. Cynhaliwyd y seremoni gyntaf ym mis Rhagfyr 1976 yn y Café Royal. Ym 1984, rhoddodd yr actor Prydeinig Laurence Olivier ei ganiatâd i'r gwobrau gael eu hailenwi er anrhydedd iddo a daethant yn adnabyddus fel Gwobrau Laurence Olivier.[5]

Enillwyr nodedig

[golygu | golygu cod]

Enillwyd y nifer mwyaf erioed o Wobrau Olivier gan un cynhyrchiad dramatig yn 2017, sef y ddrama Harry Potter and the Cursed Child. Mae'r record ar gyfer y dramâu cerdd yn gyfartal rhwng Paddington: The Musical (2026), Sunset Boulevard (2024), Cabaret (2022), Hamilton (2018) a Matilda (2012) pob un wedi ennill 7 Gwobr.

Derbyniodd y cynyrchiad The Curious Incident of the Dog in the Night-Time (2013) 7 Gwobr, a Nicholas Nickleby (1980) a My Neighbour Totoro (2023) 6 Gwobr. Cafodd Life of Pi (2022), Chimerica (2014), Sunday in the Park with George (2007) [gyda Daniel Evans], She Loves Me (1995) a Guys and Dolls (1982) 5 Gwobr.

O ran unigolion, y cynhyrchydd theatr Sonia Friedman sydd wedi cipio'r nifer mwyaf o Wobrau - 18 hyd 2026. Mae'r cynllunydd William Dudley, Judi Dench a'r cyfarwyddwr Matthew Bourne wedi ennill 7 Gwobr. Enillodd Dench y Wobr Arbennig am ei Chyfraniad i Fyd y Theatr (2004) yn ogystal. Enillodd Andrew Lloyd Webber 6 Gwobr, gan gynnwys y Wobr Arbennig am ei Gyfraniad i Fyd y Theatr (2008). Mae Ian McKellen, Alan Bennett, Richard Eyre a Stephen Sondheim wedi ennill 5 Gwobr.

Ymysg yr enillwyr niferus eraill mae Imelda Staunton, Michael Frayn, Clare Higgins, Alex Jennings, Sam Mendes, Trevor Nunn, Philip Quast, Willy Russell, Simon Russell Beale, Frances de la Tour a Bunny Christie.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Olivier Awards | Official London Theatre". officiallondontheatre.com (yn Saesneg). 2026-03-09. Cyrchwyd 2026-03-31. Established in 1976, the Olivier Awards celebrate the world-class status of London theatre and are Britain’s most prestigious stage honours.
  2. "Olivier Awards". SOLT (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-03-31. The Olivier Awards celebrate the world-class status of London theatre, and are one of theatre’s most prestigious stage honours.
  3. "Gwefan BBC".
  4. "Gwefan BBC".
  5. "10 things you probably didn't know about the Olivier Awards | Official London Theatre". officiallondontheatre.com (yn Saesneg). 2017-10-20. Cyrchwyd 2026-07-03.