Hollti
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 2017 |
| Cysylltir gyda | Theatr Cymru |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan Gymraeg "gair-am-'air" o waith Manon Wyn Williams yw Hollti, gafodd ei lwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2017. Mae'r ddrama yn delio gyda datblygiadau arfaethedig i adeiladu atomfa newydd ar Ynys Môn, ar lun Atomfa'r Wylfa, gan rwygo barn cymuned wledig.[1] Roedd y ddrama yn seiliedig ar syniad gwreiddiol gan Sarah Bickerton a Marred Glynn Jones.[1] Cafodd y ddrama ei chomisiynu yng nghyfnod Arwel Gruffydd fel arweinydd artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Roedd amrywiaeth helaeth o gymeriadau yn cael eu portreadu gan y cwmni. Nid oedd enwau'r cymeriadau yn y Rhaglen.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn dilyn drama verbatim (neu ‘air-am-air’) cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru sef Sgint yn 2012, comisiynwyd Manon Wyn Williams, yn wreiddiol o Rosmeirch, "i gyfweld, a chofnodi, sgyrsiau di-ri â thrigolion yr ynys, o bob pegwn i’r sbectrwm barn".[2] Daethpwyd â'r cyfan at ei gilydd o dan gyfarwyddyd Sarah Bickerton er mwyn creu y cynhyrchiad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.[2]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2017 gyda'r cast canlynol: Iwan Charles, Dafydd Emyr, Lowri Gwynne, Steffan Harri, Siw Hughes, Siôn Pritchard a Gwyn Vaughan Jones. Sarah Bickerton oedd yn cyfarwyddo gyda'r tîm creadigol yn cynnwys Marred Glynn Jones, Luned Gwawr Evans, Elanor Higgins a Gareth Brierley.[1]
Wrth wylio'r cynhyrchiad yn Ysgol Bodedern, teimlai'r adolygydd Lowri Haf Cooke y byddai o fantais i ddarpar gynulleidfa o du allan i Ynys Môn i "...wneud ychydig o waith cartref yn gyntaf. Dwi’n gyfarwydd â’r term poblogaidd am yr atomfa bosib, ‘Wylfa B’, ac wedi gweld ambell adroddiad newyddion dros y blynyddoedd, ond rhaid cyfaddef, [...] do’n i ddim yn gwybod digon am hanes, na’r cynlluniau am ‘Wylfa Newydd’", eglurodd.[2]
"Mae’r cynhyrchiad yn eich boddi mewn ystadegau ar adegau ac mae’n cymeryd yn ganiataol fod pawb yn hyddysg yn y ffeithiau moel. Rwyf felly’n tybio mai’r gynulleidfa leol a werthfawrogodd y ddrama hon fwyaf yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, a nhwythau’n byw’r drafodaeth danbaid hon bob dydd." [2]