Neidio i'r cynnwys

Lo-Fi Jones

Oddi ar Wicipedia
Lo-Fi Jones
Enghraifft o:grwpiau cerddorol Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Genrecanu gwerin Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae Lo-Fi Jones yn fand gwerin-indi-pop o Fachynlleth a Dyffryn Dyfi, sy'n cynnwys Liam a Siôn Rickard, sy'n frodyr, o Fetws-y-coed, Rolando Bertrand Ruiz o Nicaragua, a Badger Brown o Sir Benfro. Sefydlwyd y band yn 2020 gan Liam a Siôn.[1]

Fe enillon nhw Frwydr y Bandiau Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, a chawsant fuddugoliaeth yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn 2024. Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Cân i Gymru gyda'r gân Y Wennol. Yn ôl Gwilym Bowen Rhys, mae'u cerddoriaeth yn “...wledd i’r synhwyrau i gyd ... gwreiddioldeb yn tasgu o bob bys ac o bob blewyn”. Cafodd eu cân, Slag Heap, ei henwebu yng nghategori "Cân Saesneg orau" Gwobrau Gwerin 2023.[2][3]

Yn 2024 dewiswyd y grŵp i fod yn un o'r bandiau sy'n rhan o Gronfa Lansio Gorwelion sy'n hyrwyddo cerddorion a bandiau Cymreig sy'n canu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Noddir Gorwelion (Horizons dan y brand Saesneg) gan BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.[4] Gyda'r gefnogaeth ariannol yma rhyddhawyd E.P. Bad Technology yn 2024.

Aelodau

[golygu | golygu cod]
  • Liam Rickard - llais, guitar, cyfansoddi
  • Siôn Rickard - llais, offerynnau amrywiol, cyfansoddi
  • Rolando Bertrand Ruiz - offerynnau amrywiol
  • Badger Brown

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd sawl cân gan y band:[5]

  • Coming Sŵn - Label Lo-Fi Jones, (2026)
  • Llanast yn y Llofft - Label Lo-Fi Jones, (2022)
  • "Bad Technology" - Label Lo-Fi Jones (2024)

Senglau

[golygu | golygu cod]
  • "Weithiau Mae'n Anodd" - Label Lo-Fi Jones, (2022)
  • "Y Wennol" - Label Lo-Fi Jones, (2023)
  • "Fan Transit Coch" - Label Lo-Fi Jones, (2023)
  • "Ffŵl" - - Label Lo-Fi Jones, (2024)
  • "Llethrau" - Label Lo-Fi Jones, (2024)
  • Bad Technology - Label Lo-Fi Jones, (2024)
  • "My Love" - Label Lo-Fi Jones, (2024)
  • "Bydd Goleuni yn yr Hwyr" - Label Lo-Fi Jones, (2025)
  • Cân yr Ystlym - Label Lo-Fi Jones, (2026)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "LoFiJones". Tudalen Facebook Lo-Fi Jones. Cyrchwyd 20 Hydref 2026.
  2. ↑ "Lo-Fi Jones". Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024. Cyrchwyd 20 Hydref 2026.
  3. ↑ "Bio". Gwefan Musicglue Lo-Fi Jones. Cyrchwyd 20 Hydref 2026.
  4. ↑ "Gorwelion Horizons Launch Pad Fund 2024". LoFiJones. Cyrchwyd 20 Hydref 2026.
  5. ↑ "Lo-Fi Jones". Spotify. Cyrchwyd 20 Hydref 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]