Swmereg
| Swmereg | |
|---|---|
| 𒅴𒂠 eme-gir15[1] | |
| Yn frodorol i | Swmer ac Acad |
| Ardal | Mesopotamia (Irac heddiw) |
| Cyfnod | Ardystir ers t. 2900 CCC. Nid oedd yn frodorol erbyn tua 1700 CCC; defnyddiwyd yn iaith glasurol hyd nes tua 100 AD.[2] |
| Tafodieithoedd | |
| Cynffurf Sumero-Acadeg | |
| Codau iaith | |
| ISO 639-2 | sux |
| ISO 639-3 | sux |
uga | |
| Glottolog | sume1241 |
Swmereg (Swmereg: 𒅴𒂠, wedi'i rufeinio i: eme-gir15, hefyd 𒅴𒄀 eme-gi,[4] yn llythrennol yr iaith frodorol)[5] oedd iaith Swmer hynafol. Mae'n un o'r ieithoedd hynaf a ardystir, gan fynd yn ôl at o leiaf 2900 CCC. Mae'n iaith arunig leol a siaredid ym Mesopotamia hynafol, sef ardal Irac heddiw.
Yr Acadeg, sy'n iaith Semitig, a ddisodlodd yn araf y Swmereg yn brif iaith a siaradwyd tua t. 2000 CCC, ond parhaodd y Swmereg i fod yn iaith gwyddoniaeth, gan gynnwys i fod yn iaith sanctaidd, defodol, a llenyddol yn ardaloedd Acadeg Mesopotamia, megis Assyria a Babilonia, nes 1AD. Wedi hynny, ni chafodd gryn sylw hyd nes y 19eg ganrif, pan ddechreuodd Assyriolegwyr ddehongli'r arysgrifau cynffurf a'r llechi a gafodd eu gadael ar ôl gan ei siaradwyr.
Er gwaethaf ei marwolaeth, cafodd y Swmereg gryn ddylanwad ar ieithoedd eraill yr ardal. Roedd defnydd o'r gynffurf, a gafodd ei defnyddio i ysgrifennu'r Swmereg, i'w gael gydag ieithoedd eraill, megis yr Acadeg, yr Elameg, yr Ebaleg, yr Hetheg, yr Hwrïeg, y Lwïeg, a'r Wrarteg; yr oedd hefyd yn sail i wyddor yr Hen Berseg, a ddefnyddiwyd i ysgrifennu'r iaith eponymaidd. Cafodd y dylanwad mwyaf ar yr Acadeg, lle mabwysiadwyd llawer o ramadeg a geirfa'r Swmereg gan yr Acadeg.[6]
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Llenyddiaeth Swmereg
Swmereg yw iaith wreiddiol Epig Gilgamesh, un o'r gweithiau llenyddol cynharaf sydd wedi goroesi mewn unrhyw iaith.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jagersma (2010: 1), Zólyomi (2017: 15), Foxvog (2016: 21), Edzard (2003: 1), ePSD2 entry for emegir.
- ↑ "Sumerian". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mehefin 2013. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
- 1 2 Jagersma (2010: 6–8), Zólyomi (2017: 19), Zamudio (2017: 264)
- ↑ Cofnod ePSD2 ar gyfer emegir.
- ↑ Cofnod ePSD2 ar gyfer emegir.)
- ↑ Hasselbach-Andee, Rebecca (2020). A Companion to Ancient Near Eastern Languages. Wiley-Blackwell.