Theatr Dirty Protest
| Cymru | |
| Enghraifft o: | cwmni theatr |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 2007 |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg a Saesneg |
| Cysylltir gyda | Tim Price |
| Dechrau/Sefydlu | 2007 |
| Pencadlys | Wrecsam, Casnewydd |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Gwefan | https://www.dirtyprotesttheatre.co.uk |
| Dynodwyr | |
Cwmni theatr i hybu ysgrifennu newydd ar gyfer y llwyfan yw Theatr Dirty Protest neu Theatr Protest Fudr, wedi'i leoli yng Nghasnewydd a Wrecsam[1]. Cafodd ei sefydlu yn 2007 gan Tim Price, Claire Ferguson, Mared Llywelyn ac Ellie Fox,[2] ac mae'r cwmni'n honni iddynt weithio gyda mwy na 350 o awduron o Gymru, gan lwyfannu dramâu newydd mewn amrywiol leoliadau sy'n cynnwys "tafarndai a chlybiau, siopau kebab, siopau trin gwallt, arosfannau bysiau a choedwig!".[1]
Mae'r cwmni yn trefnu "nosweithiau byrion" gyda darlleniadau o waith newydd, yn ogystal â chynyrchiadau mwy sylweddol, ac wedi cyd-weithio gyda sawl sefydliad megis Theatr y Royal Court, Almeida, Traverse Caeredin, Theatr Soho, Theatr y Sherman a Theatr Clwyd, yn ogystal â National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru.[1]
Bu'r cwmni yn cydweithio gyda nifer o awduron a chyfarwyddyddion o Gymru gan gynnwys Matthew Bulgo, Tim Price, Branwen Davies, Lisa Jên Brown, Sera Erddig, Iola Ynyr, Alan Harris, Jac Ifan Moore, Kate Wasserberg, Siôn Pritchard, Alun Saunders, Daf James, Gareth Potter, Tudur Owen, Eilir Pierce, Dafydd Llewelyn, Elgan Rhys, Beth Angell a Mared Swain.[1]
Erbyn 2026, mae'r cwmni'n gweithio'n rhyngwladol yn ogystal. Yn ystod cyfnod Covid 19, darlledodd y cwmni ddramâu ar y Wê drwy gydweithrediad â National Theatre Wales, Sherman Cymru, BBC Cymru a BBC Arts.[3]
Yn 2017, yn ystod Tafwyl, bu Lowri Haf Cooke yn dyst i un cynhyrchiad : "Fel yn achos pob sioe ers sefydlu’r cwmni yn 2007, cynigwyd thema i chwech awdur – sef ‘Ynys’ yn yr achos yma," eglurodd, "– a thair wythnos i sgwennu drama ddeg munud. Cafwyd ensemble o actorion, a’u sgriptiau wrth law, dan gyfarwyddyd yr actor Siôn Pritchard".[4]
Arweinwyr artistig
[golygu | golygu cod]- Catherine Paskell - (2007 - presennol)
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]- Parallel Lines (2013) gan Katherine Chandler - enillydd Gwobr Dewis y Beirniaid am y Cynhyrchiad Gorau Cymru yn 2013 yng ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru.[1]
- My Mix(ed Up) Tape (2022 a 2026) gan Katie Payne fydd yn cael ei lwyfannu yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2026
- Double Drop (2020 a 2022) gan Lisa Jên Brown - yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2022
- Unbound (2020) gan Remy Beasly
- Soaring (2020) gan Hefin Robinson
- Kill Me Now (2020) gan Rhiannon Boyle ar y cyd â Galeri, Caernarfon
- Sprinkles (2018 a 2019) gan Katie Elen Salt
- How to be Brave (2019) gan Siân Owen yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2019
- Sugar Baby (2017) gan Alan Harris ar y cyd â Chapter yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2017
- Ynys (2017) Tafwyl
- Lightspeed from Pembroke Dock (2018) gan Mark Williams ar y cyd â Chapter a Theatr Torch
- Last Christmas (2015 a 2016) gan Matthew Bulgo ar y cyd â Traverse, Caeredin, yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2015
- Parallel Lines (2013 a 2015) gan Katherine Chandler
- Plays in a Bag (2013) Theatr Royal Court a Theatr Almeida, Llundain
- After the End (2013) ar y cyd â Sherman Cymru
- Protest Fudr (2007, 2008 a 2011)[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 5 "About Us". Dirty Protest (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-03.
- ↑ "Tim Price (writer)". Grokipedia (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-03.
- ↑ "Ritual Audio Plays". Dirty Protest (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-03.
- ↑ lowrihafcooke (2017-06-26). "Protest Fudr: Ynys (Dirty Protest Theatre)". Lowri Haf Cooke. Cyrchwyd 2026-07-03.
- ↑ Stone, Natalie (2011-02-23). "Cardiff's new writing force Dirty Protest take theatre to its limits". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-03.