Neidio i'r cynnwys

Spamalot

Oddi ar Wicipedia
Spamalot
Enghraifft o:gwaith drama-gerdd, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEric Idle Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
CymeriadauKing Arthur of Britain, The Lady of the Lake, Patsy, Sir Lancelot, Sir Galahad, Sir Robin, Sir Bedevere, Prince Herbert Edit this on Wikidata
LibretyddEric Idle Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afCIBC Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af21 Rhagfyr 2004 Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrMike Nichols Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrArielle Tepper Madover Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohn Du Prez Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.montypythonsspamalot.com Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03typk edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sioe gerdd gafodd ei chynhyrchu yn 2005, ac sy'n seiliedig ar y ffilm Monty Python and the Holy Grail o 1975, yw Spamalot (a elwir hefyd yn Monty Python's Spamalot: A New Musical (Lovingly) Ripped Off from the Motion Picture Monty Python and the Holy Grail). Mae'r sioe gerdd yn cynnig parodi amharchus iawn o chwedl Arthuraidd, gyda'r teitl yn bortmanteau o Spam a Camelot. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan John Du Prez ac Eric Idle, a geiriau a gan Idle.

Derbyniodd y cynhyrchiad Broadway gwreiddiol yn 2005, a gyfarwyddwyd gan Mike Nichols, 14 enwebiad am Wobr Tony, gan ennill mewn tair categori, gan gynnwys y Sioe Gerdd Orau. Yn ystod ei gyfnod cychwynnol o 1,575 o berfformiadau, gwelwyd y cynhyrchiad gan fwy na 2 filiwn o bobl a gwnaeth gros o dros $168 miliwn.[1] Tim Curry oedd yn portreadu'r Brenin Arthur yn y cynyrchiadau gwreiddiol ar Broadway a'r West End. Roedd yn un o wyth sioe gerdd yn y Deyrnas Unedig a ddathlwyd ar stampiau'r Post Brenhinol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2011.[2]

Prif gymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • King Arthur (Y Brenin Arthur) – Brenin y Brythoniaid sy'n arwain yr ymgyrch i ddod o hyd i'r Greal Sanctaidd.
  • The Lady of the Lake (Arglwyddes y Llyn) – Cymeriad hudolus sy'n cynorthwyo Arthur ac yn perfformio nifer o ganeuon.
  • Sir Lancelot (Syr Lawnslot) – Marchog dewr sy'n darganfod ei wir hunaniaeth.
  • Sir Robin – Marchog llwfr sy'n fwy hoff o ganu na brwydro.
  • Sir Galahad (Syr Galahad) – Marchog golygus sy'n ymuno â'r Brenin Arthur.
  • Sir Bedevere (Syr Bedwyr) – Marchog ffyddlon ond braidd yn hurt.
  • Patsy – Gwas ffyddlon Arthur sy'n defnyddio plisg cnau coco i efelychu sŵn carnau ceffylau.
  • Historian (Yr Hanesydd) – Adroddwr sy'n cyflwyno'r stori.

Caneuon

[golygu | golygu cod]
Act I
  • Overture
  • "Fisch Schlapping Song"
  • "Monk's Chant"
  • "King Arthur’s Song"
  • "He Is Not Dead Yet"
  • "Come with Me"
  • "Laker Girls Cheer"
  • "The Song That Goes Like This"
  • "All for One"
  • "Knights of the Round Table/The Song That Goes Like This" (ailganu)
  • "Find Your Grail"
  • "Run Away!"
Act II
  • "Always Look on the Bright Side of Life"
  • "Brave Sir Robin"
  • "You Won't Succeed on Broadway"
  • "Diva's Lament (What Ever Happened to My Part?)"
  • "Where Are You?"
  • "His Name Is Lancelot"
  • "I'm All Alone"
  • "Twice in Every Show"
  • "The Holy Grail"
  • "Finale"
  • "Always Look on the Bright Side of Life (diweddglo)"

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

Chware ar eiriau sydd yn y sioe gerdd, wrth droi Camelot y Brenin Arthur yn Spamalot. "Yn ddigon tebyg i’r ‘cig’ o’r un anian, mae’r gymysgfa yma o gomedi geiriol slapstic, hiwmor hynod o’r pair Python a dirmyg doniol tuag at ddramâu cerdd, yn cydio o’r cychwyn cyntaf", nododd adolygydd theatr Y Cymro yn 2013.[3] Addaswyd y deunydd i’w gadw’n gyfoes, ac erbyn 2013, "y Boris benfelyn (maer Llundain) ar un o’i feiciau hynod [a] sgarmes Saatchi a’i gogyddes o gyn-wraig, i’r babi brenhinol" oedd yn rhan o'r sioe.[3]

Mae'r stori'n dilyn y Brenin Arthur, sy'n teithio o amgylch Lloegr yr Oesoedd Canol i recriwtio marchogion ar gyfer ei Ford Gron. Gyda chymorth ei was ffyddlon Patsy, mae'n casglu criw o farchogion, gan gynnwys Syr Lawnslot, Syr Robin, Syr Galahad a Syr Bedwyr. Wedi iddynt ddod ynghyd, mae Duw yn rhoi cenhadaeth iddynt i ddod o hyd i'r Greal Sanctaidd.

Yn ystod eu hanturiaethau, mae Arthur a'i farchogion yn wynebu cyfres o rwystrau hurt, gan gynnwys marchog sy'n gwrthod ildio er gwaethaf colli rhan helaeth o'i gorff a milwyr Ffrengig sy'n eu sarhau. Mae'r marchogion yn gwahanu ac yn dilyn eu hanturiaethau eu hunain, gan arwain at sefyllfaoedd comig a chyfarfyddiadau â chymeriadau rhyfedd.

Mae Arglwyddes y Llyn, cymeriad hudolus a theatrig, yn cynorthwyo Arthur drwy gydol ei daith, ond mae hefyd yn cwyno am ei diffyg amser ar y llwyfan. Yn y cyfamser, mae Syr Lawnslot yn achub y Tywysog Herbert rhag priodas a drefnwyd gan ei dad, ac mae Syr Robin yn darganfod mai'r ffordd orau o lwyddo ar Broadway yw cynnwys elfennau traddodiadol sioe gerdd.

Wrth i'r stori gyrraedd ei huchafbwynt, mae Arthur yn sylweddoli bod y Greal Sanctaidd yn agosach nag yr oedd wedi'i ddychmygu. Yn y diwedd, deuir o hyd iddi mewn lle annisgwyl, ac mae Arthur yn priodi Arglwyddes y Llyn, gan ddod â'r antur i ben mewn dathliad cerddorol.

Cynychiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Cymeriad Broadway West End West End
2005 2006 2012
King Arthur Tim Curry Phil Jupitus

Marcus Brigstocke

The Lady of the Lake Sara Ramirez Hannah Waddingham Bonnie Langford
Sir Lancelot Hank Azaria Tom Goodman-Hill Kit Orton
Patsy Michael McGrath David Birrell Todd Carty
Sir Robin David Hyde Pierce Robert Hands Rob Delaney
Sir Galahad Christopher Sieber Jon Robyns
Prince Herbert Christian Borle Darren Southworth Adam Ellis
The Historian
Sir Bedevere Steve Rosen Tony Timberlake Robin Armstrong

Agorodd rhagwelediadau o'r sioe yn Chicago ar y 21 Rhagfyr 2004, cyn symud i Broadway gan agor yn swyddogol ar y 17 Mawrth 2005, o dan gyfarwyddyd Mike Nichols a coreograffi Casey Nicholaw. Enillodd y cynhyrchiad Wobr Tony am y sioe gerdd orau.[1]

Cyrhaeddodd y sioe y West End yn Llundain yn 2006, gan agor yn Theatr y Palace ar yr 16 Hydref, a pharhau tan 3 Ionawr 2009. Trefnwyd taith drwy'r Deyrnas Unedig yn hwyrach yr un flwyddyn, ond ni gychwynodd y daith tan 29 Mai 2010.

Steffan Harri fel Syr Lawnslot yn Spamalot

Cafwyd ail-lwyfanniad arall yn y West End yn 2012, gyda amrywiaeth o enwau cyfarwydd yn rhan o'r sioe fel Jon Culshaw, Stephen Tompkinson, Joe Pasquale, Les Dennis, Anna-Jane Casey, Warwick Davies, Dominic Wood a Daniel Boys. Fel rhan o gynyrchiadau elusennol, bu Gary Lineker, Yr Athro Brian Cox, Barbara Windsor, Brian May a Michael Palin yn rhan o'r sioe am wythnos.[4] Bu'r Cymro Steffan Harri o Sir Drefaldwyn yn portreadu'r cymeriad 'Syr Lawnslot' yn y cynhyrchiad, yn y cyfnod yma, yn ogystal â dirprwyo cymeriadau eraill.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Gans, Andrew (21 Tachwedd 2008). "Spamalot Will Now Close Jan. 11, 2009". Playbill. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Rhagfyr 2008. Cyrchwyd 25 Hydref 2009.
  2. ↑ "Royal Mail musicals stamps set to rock you!". Royal Mail group. Cyrchwyd 27 Ebrill 2019.
  3. 1 2 3 "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Hydref 2026.
  4. ↑ "London Theatre". 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-12. Cyrchwyd 16 Hydref 2026.