Steffan Harri
| Steffan Harri | |
|---|---|
| Ganwyd | Steffan Harri Jones 24 Tachwedd 1992 Dolanog, Sir Drefaldwyn |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | canwr, actor, ffermwr |
Actor, canwr a ffermwr o Sir Drefaldwyn yw Steffan Harri neu Steffan Harri Jones (ganwyd 24 Tachwedd 1992) sydd wedi portreadu cymeriadau yn y sioeau cerdd Les Misérables, Shrek the Musical, Girl from the North Country a Spamalot ac wedi gweithio gyda chwmnïau'r Royal Shakespeare, Theatr yr Old Vic a Theatr Genedlaethol Cymru. Cafodd y fraint o fod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2024.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Magwyd Steffan Harri ar fferm Plas Coch, Dolanog yn fab i Tom Jones a "Dr Margaret". Bu'n perfformio ar lwyfannau Cymru o oed ifanc iawn gyda Cwmni Theatr Maldwyn a chynyrchiadau'r Ffermwyr Ifanc.
Derbyniodd ei addysg cynnar yn Ysgol Gynradd ac Uwchradd Llanfair Caereinion.[1]
Mynychodd gwrs drama haf yn y Arts Educational School yn Llundain, cyn cael ei dderbyn yn aelod o Youth Music Theatre UK, lle bu'n aelod o gast y ddrama gerdd, A Winter's Tale. Wedi ei brofiad gyda'r cwmni, penderfynodd ddilyn cwrs gradd mewn perfformio.
Graddiodd o'r Guildford School of Acting (GSA).[2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Harri yn briod â'r actores a'r gantores Rosanna Bates ers 2021, ac mae ganddynt ddau o blant. Mae Bates yn rhan o Gôr Ffermwyr Hawkstone a ddaeth i'r brig ar y rhaglen Britain's Got Talent yn 2026.[3]
Gwaith ddethol
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]
- As You Like It (2026) Royal Shakespeare Company
- Girl from the North Country (2019 a 2025)
- Tylwyth (2022) Theatr Genedlaethol Cymru
- Shrek the Musical (2017–2019) fel y prif gymeriad a'r actor mwyaf ifanc i'w bortreadu, ar y pryd[4]
- Les Misérables (2016–2017)
- Spamalot (2013–2015) fel Sir Lancelot
- Children of Eden
- Merrily We Roll Along - GSA
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]- Suspect: The Shooting of Jean Charles de Menezes (2025)[5]
- Limbo (2021)
- Rownd a Rownd (2013)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Final bow for 'Shrektacular' Steffan". County Times (yn Saesneg). 12 Ionawr 2019. Cyrchwyd 16 Hydref 2026.
- ↑ "Steffan Harri | Performers". Stage Faves (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Hydref 2026.
- ↑ "Farmer lands dream role with Royal Shakespeare Company alongside Broadway star". County Times (yn Saesneg). 18 Medi 2026. Cyrchwyd 16 Hydref 2026.
- ↑ "ON STAGE: Theatre chat with the man who plays Shrek". Total MK. Cyrchwyd 16 Hydref 2026.
- ↑ "Gwefan IMDB". 16 Hydref 2026.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Steffan Harri ar wefan Internet Movie Database
- Steffan Harri ar X